Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 18 Ebrill 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


130(v7)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi)

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru)

(45 munud)

</AI3>

<AI4>

Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69

 

Leanne Wood: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

(20 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI5>

<AI6>

5       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

Neil McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru yn y cynnig arfaethedig i ailenwi’r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru?

</AI6>

<AI7>

6       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?

(60 munud)

NDM6704 David Rees (Aberafan)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2018.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 12 Ebrill 2018.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol

(30 munud)

NDM6702 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig 16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y cytunwyd arno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018.

2. Yn gresynu at fethiant yr Ysgrifennydd Parhaol i gydymffurfio â dymuniadau Aelodau'r Cynulliad.

3. Gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol bod Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y rhannodd Llywodraeth Cymru wybodaeth o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol diweddar.

ITV Cymru – Leak inquiry clears First Minister – 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn unig)

Wales Online – Outside the headlines: Politics updates from Cardiff Bay, Westminster and our town halls – 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn unig)

Llythyr oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol at bob Aelod Cynulliad – 16 Mawrth 2018

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1.

</AI9>

<AI10>

9       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol

(30 munud)

NDM6703 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r argyfwng cynyddol o ran recriwtio athrawon mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 

2. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon hyd yma i fynd i'r afael ag achosion hyn. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol i Gymru, er mwyn:

a) dileu rhwystrau diangen i recriwtio athrawon a hyfforddwyd dramor;

b) cydnabod sgiliau athrawon profiadol a llwyddiannus sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach, ac mewn ysgolion annibynnol a cholegau, drwy roi statws athrawon cymwysedig iddynt; ac

c) sefydlu llwybrau i addysgu ar gyfer cynorthwywyr cymorth addysgu profiadol yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan gynnwys:

a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon;

b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg;

c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n fanwl;

d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol; a

e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1:

Yn nodi ffigyrau National Education Union Cymru sy’n dangos bod dros 50,000 y flwyddyn o ddyddiau gwaith yn cael eu colli gan athrawon oherwydd salwch sy’n ymwneud a straen a bod 33.6 y cant o’r athrawon ysgol a wnaeth ymateb i arolwg gweithlu addysg cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg yn bwriadu gadael eu proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf.

Datganiad i'r Wasg National Education Union Cymru, 'New Education Minister Must Tackle Stress' - 25 Gorffennaf 2016

Arolwg Gweithlu Addysg Cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg

</AI10>

<AI11>

10   Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality

(60 munud)

NDM6697 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi ac yn croesawu ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt:

a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd;

b) iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;

c) iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd; a

d) iawndal i fuddiolwyr ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.

Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin Abertawe)

Ym mhwynt 2, dileu “weithio gyda” a rhoi “annog” yn ei le.

</AI11>

<AI12>

11   Dadl Frys

(60 munud)

Leanne Wood: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria

</AI12>

<AI13>

12   Cyfnod Pleidleisio

 

</AI13>

<AI14>

13   Dadl Fer

(30 munud)

NDM6701 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Sepsis – y cameleon

Beth yw sepsis, sut yr ydym yn adnabod y symptomau, sut yr ydym yn ei drin, a beth y gallwn ei wneud i arbed mwy o fywydau?

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>